|

Mae Croeso Cymru yn gweithredu polisi lle nad yw ond yn rhestru llety sydd wedi ei archwilio'n llawn a'i raddio am ansawdd. Cynhelir yr archwiliadau neu asesiadau blynyddol ar sail flynyddol felly medrwch archebu yn hyderus, gan wybod y bydd y llety a gynhwysir wedi ei wirio gan aseswyr ansawdd Bwrdd Croeso Cymru ei hunan. Cafodd yr holl leoedd a aseswyd - o'r ffermdy lleiaf i'r gwesty mwyaf neu gymhlyg hunan-ddarpar - eu hasesu am ansawdd a rhoddwyd graddiad seren iddynt. 5 seren - ansawdd eithriadol 4 seren - ansawdd ardderchog 3 seren - ansawdd da iawn 2 seren - ansawdd da 1 seren - ansawdd teg i dda Mae graddau ansawdd seren hefyd ar gael ar gyfer adeiladau hunan-ddarpar unigol a pharciau carafannau a gwersylla. Mae Croeso Cymru hefyd yn cydnabod ac yn cynnwys llety arall a archwiliwyd gan yr AA/RAC. Er fod cynllun seren Croeso Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar ansawdd, mae cynlluniau AA/RAC yn seiliedig yn fwy ar ddarpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau. Mae'r AA/RAC hefyd yn defnyddio cynllun 1 - 5 seren i raddio gwestai. Ar gyfer gwestai bach a sefydliadau bach eraill, fodd bynnag, mae'r AA/RAC yn defnyddio'r symbol diemwnt i ddangos y graddiad.
Y Sêr Gwestai, Gwely a Brecwast Llety Hunan-Ddarpar Parciau Carafannau Hostels and Other Accommodation Tourist Attractions Llety i Ymwelwyr ag Anabledd Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Canslo ac Yswiriant Cliciwch ar y teitlau i gael gweld rhagor o wybodaeth ar y cysylltiadau uchod. Bydd rhai o'r cysylltiadau yn mynd a chi i wefannau allanol Saesneg yn unig.
|