 |
| Mae gan Gymru rai o’r golygfeydd gorau ynghyd â’r dyfroedd mewndirol ac arfordirol mwyaf trawiadol ym Mhrydain. Mae’r amrywiaeth o brofiadau sydd i’w cael yng Ngyhmru yn golygu ei fod yn lleoliad heb ei ail ar gyfer selogion awyr agored. Mae damweiniau difrifol ym mynyddoedd a dyfroedd Cymru yn bethau prin. Ond, yn anochel, mae damweiniau yn digwydd o dro i dro. Fodd bynnag, gydag ychydig o ofal a pharatoi gall pob un ohonom wneud rhywbeth i sicrhau nad ydynt yn digwydd i ni. Dewch o hyd i mwy o wybodaeth ar ddiogelwch traeth yma Sea Smart. |
 | Profiad Gwnewch yn siwr bod gennych chi a'ch grwp y profiad sydd ei angen i wneud y gweithgaredd. Ystyriwch ffitrwydd, cryfder, oedran ac arbenigedd yn ogystal â'ch gwybodaeth am yr ardal a'r amgylchiadau. |  | Offer Cofiwch sicrhau bod gennych chi ddillad sy'n dal dwr a haenau cynnes ychwanegol, gan gynnwys menig a het. Gwisgwch 'sgidiau cyfforddus, cadarn gyda gwadn sy'n gafael yn dda. Ewch â bwyd, dwr a chyfarpar cymorth-cyntaf gyda chi. |
 | Amgylchiadau Gall y tywydd fod yn anodd i'w ragweld felly byddwch yn barod am y gwaethaf a byddwch chi'n siwr o gael amser da. Gwrandewch ar y rhagolygon lleol arbenigol a byddwch yn barod i newid eich trefniadau ar sail hynny. |  | Cynllunio Cynlluniwch ar sail gallu'r grwp, nid dim ond eich gallu chi'ch hun. Manteisiwch gymaint ag y bo modd o'r wybodaeth sydd ar gael i dwristiaid, mewn llyfrau tywys ac ati. Byddwch wastad yn barod i addasu'ch trefniadau os oes angen. |
 | Argyfwng Mewn argyfwng, ffoniwch yr heddlu drwy ddeialu 999. Byddan nhw'n cysylltu gyda'r gwasanaethau achub priodol. Rhowch gyfeirnod map os oes modd. Ceisiwch drin unrhyw anaf gystal ag y gallwch chi. |  | I gael rhagor o wybodaeth Cliciwch ar y ddelwedd i islwytho llawlyfr pdf sy'n rhoi rhagor o wybodaeth ar ddiogelwch. |