|
|

|
 | Yma yng Nghymru, rydym yn falch iawn o’n golygfeydd aruthrol a’n tirweddau ysbrydoledig ac o’r cyfoeth o ddiwylliant a threftadaeth sy’n gysylltiedig. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen i amddiffyn a chyfoethogi natur a diwylliant er budd a mwynhad y cenedlaethau i ddod. | | Dyma pam fod Croeso Cymru yn cefnogi Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd®. Mae’r safon yn cydnabod busnesau ledled Cymru sydd wedi gwneud ymrwymiad i ddiogelu ein hamgylchedd, ac yn gweithredu i’w amddiffyn a’i wella. | | Felly beth mae hyn yn ei olygu i chi’r cwsmer? Rydym yn credu ei fod yn ymwneud â dewis – rhoi gwybodaeth gywir a pherthnasol i chi, er mwyn i chi allu dod i benderfyniad cytbwys. Ble bynnag y gwelwch logo’r Ddraig Werdd, gallwch fod yn siwr bod y busnes wedi ymrwymo i wella ei berfformiad amgylcheddol a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Am wybodaeth bellach ewch i y Ddraig Werdd. |
 |
|
| | |