 |
| Daw’r Gwanwyn â ffrwydriad o goed a phlanhigion yn codi o’r tir. Dewiswch o goedwigoedd a gerddi ffurfiol a ddetholwyd isod i brofi’r gorau o Gymru yn y Gwanwyn. |
 | Castell Penrhyn Mae’r ardd yn enwog am ei flodau gwyllt yn y gwanwyn. Mae cennin Pedr, clychau’r gog a ffedog y forwyn yn garped ar draws nifer o’i lawntiau a choedwigoedd. Mae planhigion ffurfiol sy’n blodeuo yn cynnwys coed a llwyni megis magnolia a formosa, ynghyd â phlanhigion dringo a llysieuol megis barf yr hen ŵr a jasmin. Mae gan y castell lwybr gwanwyn camelia a rhododendron hynod o hardd. Cliciwch am ragor o wybodaeth. Rhagor o Wybodaeth - Castell Penrhyn |
|
 | Gerddi Clyne Mae uchafbwyntiau yn cynnwys prif gyfnodau blodeuo’r planhigion parhaol sy’n hoff o leithder yng Ngardd y Gors. Mae’r rhain yn cynnwys lluwchion mawr o liw o’r amrywiol friallu, gellesg, astibleau, hostas a lilïau undydd. Ond y goron ar y cyfan yng Ngardd y Gors yw planhigyn deiliog – y cytrefi aruthrol o ddail rhiwbob anferth y Gunnera manicata, y planhigyn llysieuol â’r dail mwyaf a dyfir yn Ewrop a all gyrraedd 2.4metr/8 troedfedd. Rhaid eu gweld i’w gwerthfawrogi! Rhagor o Wybodaeth - Gerddi Clyne |
|
 | Aberglasney Mae’r bylbau sy’n blodeuo yn y gwanwyn, llawer ohonynt yn rhai prin, yn wledd i’r llygaid ledled y gerddi. Mae yno hefyd gasgliad o fagnolias (35 math gwahanol), cameliâu a gwifrnwydd. Yn hwyrach yn y gwanwyn, daw casgliad Aberglasney o blanhigion coetir, a ystyrir i fod yn un o’r gorau yn y wlad, i’w llawn gogoniant. Rhagor o Wybodaeth - Aberglasney |
|
 | Plas Newydd Dim ond yn ystod y cyfnod blodeuo o’r Pasg i ddechrau Mehefin fydd yr Ardd Rhododendron ar agor. Mai yw’r mis gorau ar gyfer yr asaleâu collddail o India’r Gorllewin sy’n tyfu mewn clwstwr. Rhagor o Wybodaeth - Plas Newydd |
|
 | Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Mae’r Tŷ Gwydr Mawr ar ei orau. Bydd y planhigion o Fôr y Canoldir yn neidio o’u trwmgwsg dros y gaeaf i arddangos blodau ac arogleuon bendigedig. Y tu allan, mae’r ardd yn llawn clychau’r gog, eirlysiau a dros 100,000 o gennin Pedr yn blodeuo. Mae cwtieir yn adeiladu nythod sy’n arnofio ar y llynnoedd. Rhagor o Wybodaeth - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru |
|
 | Castell Picton Peidiwch da chi a cholli llwybr clychau’r gog, carped o las dan wyrddni hen goed. Mae danteithion eraill y gwanwyn yn cynnwys casgliad mawr ac unigryw o rododendrons ac asaleâu, ynghyd â magnolias a chamelias. Rhagor o Wybodaeth - Castell Picton |
|
 | Gardd Coetir Colby Mae hyn yn gyfnod hudolus yn Colby. Mae llawr y goedwig yn garped o glychau’r gog, epimediymau, astilbeau a hylithrau. Ymysg y planhigion arbennig i chwilio amdanynt mae’r Rhododendrons falconeri, sinogrande a macabeanum â’u dail mawr ger y Pwll Uchaf. Hefyd yn blodeuo mae Magnolia ‘Leonard Messel’, Magnolia soulangeana Nigra a magnolias eraill aruthrol o amgylch ardal y coed cas gan fwnci. Ar hyd ymylon y llwybr uchaf mae nifer o gamelias lliwgar. Rhagor o Wybodaeth - Coedwig Colby |
|
|
 |
|
|
|
|
|