Syniadau Tymhorol yr Haf
Daw dyddiau hir yr Haf â’r cyfle perffaith i archwilio. Ewch am dro trwy’r gerddi isod, sydd wedi eu dewis ar gyfer eu harddangosiadau arbennig yn yr Haf.

Gardd Bodnant Gardd Bodnant
Mae’r Bwa Tresi Aur 180 troedfedd/55 metr o hyd enwog – a dynnwyd sawl llun ohono – yn gorlifo o flodau melyn o ganol Mai i ganol Mehefin. Mae’r borderi blodau, rhosod, blodau’r enfys, barf yr hen ŵr a lili’r dŵr yn blodeuo o ganol Mehefin tan Medi.
Rhagor o Wybodaeth - Gardd Bodnant
Gardd Rosod Parc y RhathGardd Rosod Parc y Rhath
Ar ddiwrnod heulog, mae’r ardd yn llawn miloedd o ymwelwyr. Ymysg yr atyniadau mwyaf poblogaidd mae’r cychod a lle chwarae’r plant, gyda’r Ystafell Wydr yn agos iawn ar eu hôl. Mae’r Ardd Rosod, arddangosfeydd aruthrol o flodau’r haf, borderi blodau ac amrywiaeth helaeth o lwyni yn denu’r ymwelydd mwy myfyriol.
Rhagor o Wybodaeth - Parc y Rhath
Parc TredegarParc Tredegar
Gardd Cedrwydd. Mae’r borderi blodau wedi dechrau llenwi erbyn y tymor hwn ac yn eu plith mae casgliad nodedig o hostas amrywiol ac Abwtilon ‘Megoptanicum’ gwych. Hefyd yn bresennol mae llwyn lled fytholrwydd ifanc deniadol, hoheria ifanc sy’n cynhyrchu blodau gwyn siâp sêr.
Rhagor o Wybodaeth - Parc Tredegar
Gerddi ClyneGerddi Clyne
Uchafbwyntiau yn cynnwys prif gyfnodau blodeuo’r planhigion parhaol yn lleithder Gardd y Gors. Mae’r rhain yn cynnwys lluwchion mawr o liw o’r amrywiol friallu, gellesg, astibleau, hostas a lilïau undydd. Ond y goron ar y cyfan yng Ngardd y Gors yw planhigyn deiliog – y cytrefi aruthrol o ddail rhiwbob anferth y Gunnera manicata, y planhigyn llysieuol â’r dail mwyaf a dyfir yn Ewrop a all gyrraedd 2.4metr/8 troedfedd. Rhaid eu gweld i’w gwerthfawrogi!
Rhagor o Wybodaeth - Gerddi Clyne
Castell y WaunCastell y Waun
Mae rhosod floribunda yn yr Ardd Rosod yn blodeuo o Fehefin i Hydref. Mae rhosod llwyn mewn rhannau eraill o’r ardd yn blodeuo adeg hyn hefyd. Mae deutzias, embothriwms a gwifwrnwydd hefyd yn blodeuo ynghyd â nifer o blanhigion eraill gan gynnwys ysbardun y marchog, cerinthe a sisyrinchium. Mae’r borderi blodau a’r ardd gerrig yn blodeuo bron trwy gydol y cyfnod hwn.
Rhagor o Wybodaeth - Castell y Waun
Castell PowisCastell Powis
Mae’r borderi blodau yn sylweddol gyda ysbardun y marchog, lilïau dydd, iris, paeonau, clychlys a phig y crëyr. Mae rhosod yn cynnwys ‘Old English’ a ‘Hybrid Musk’. Mae arddangosfeydd eraill yr haf yn cynnwys gwyddfid, barf yr hen ŵr, llwyni Canoldirol, blodau tyner ac estron, planhigion mewn potiau, blodau gardd fwthyn a blodau gwyllt. Mae blodau’r enfys ac ewcryphias ar eu gorau ar ddiwedd yr haf.
Rhagor o Wybodaeth - Castell Powis
Parc SingletonParc Singleton
Mae ‘Blodau Botaneg’ yn fis o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir rhwng 1-31 Awst pob blwyddyn. Mae’r rhaglen llawn o ddigwyddiadau ar gyfer pob oed yn cynnwys arddangosiadau garddio, arwerthiant planhigion, cyngherddau a chelf a chrefft. Cynhelir digwyddiadau awyr agored mawr a chyngherddau cerddoriaeth sylweddol yn ystod misoedd yr haf.
Rhagor o Wybodaeth - Parc Singleton
Amgueddfa Werin CymruAmgueddfa Werin Cymru
Mae’r gerddi ffurfiol ar eu gogoniant o ddiwedd Mai ymlaen. O dangnefedd y Gerddi Eidaleg, gyda’i derasau glaswellt a choed oren egsotig, i ysblennydd prin a pheraroglus yr Ardd Rosod, mae yna wastad rywbeth i’w weld a’i fwynhau.
Rhagor o Wybodaeth - Amgueddfa Werin Cymru
Yr Ardd Fotaneg GenedlaetholYr Ardd Fotaneg Genedlaethol
Mae’r Ardd Ddwy Gaer yn ei grandrwydd yn yr haf. Mae hen blanhigion egsotig yn brwydro â llysiau a ffrwythau o liwiau anarferol. Gall plant ymgolli yn y Ddrysfa India Corn a Thwnneli Helyg tra gall pawb gael eu hadlonni gan ddramâu, cerddoriaeth a dawns ar nosweithiau hir yr haf. Mae teithiau cerdded yn mynd â chi i ddolydd yn orlawn o flodau gwyllt brodorol tra bod y Tŷ Gwydr Mawr yn arddangos y blodau unflwydd yn eu lliwiau aruthrol.
Rhagor o Wybodaeth - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru


Yn ôl
Mae'r wefan hon wedi ei dylunio i'w ddefnyddio gyda IE5+.Map o'r wefan mewn ffurf testun.
Safle swyddogol Bwrdd Croeso Cymru. Hawlfraint 2006. Termau Defnyddio.
 Dyluniwyd y Safle gan World.Net. Hawlfraint 2006.