Syniadau Tymhorol y Gaeaf
Efallai mai’r Gaeaf yw tymor tawelaf y garddwr, ond mae digon i’w weld. Gwnewch y gorau o’r gerddi a ddetholwyd isod yn y Gaeaf pan fydd eirlysiau a chrocysau yn dotio’r tir.

Castell PenrhynCastell Penrhyn
Mae Penrhyn yn enwog am y nifer aruthrol o eirlysiau sy’n blodeuo pob blwyddyn, ac mae’n agor yn arbennig yn y gaeaf i alluogi’r cyhoedd i weld carpedi ohonynt trwy’r tiroedd. Mae blodau eraill ar ddiwedd y gaeaf a dechrau’r haf yn cynnwys cyll ystwyth, grug, chamelias cynnar, rhododendron a chennin Pedr.
Rhagor o Wybodaeth - Castell Penrhyn
Gardd Rosod Parc y RhathGardd Rosod Parc y Rhath
Mae adar dŵr mudol yn glanio ar y llyn, gan ddenu gwylwyr adar o bell ac agos. Mae eirlysiau a saffrwm y gaeaf, camelias, a llwyni peraroglus yn denu ymwelwyr ar y diwrnod mwyaf diflas. Mae secwoia crog yn wisg ar dderwen anferth yn borth i mewn i ardal y goedardd.
Rhagor o Wybodaeth - Parc y Rhath
AberglasneyAberglasney
Mae Aberglasney wedi ei blannu’n fwriadol i fod o ddiddordeb trwy gydol y flwyddyn, gyda chasgliad cynhwysfawr o blanhigion sy’n blodeuo trwy’r gaeaf, gan gynnwys sawl ffurf o gyll ystwyth, llwyn y Nadolig, bliwlys, perwellt y gaeaf, hylithrau ac eirlysiau. Mae strwythur hanesyddol yr ardd ei hun yn gefndir atmosfferig yn ystod y tymor hwn.
Rhagor o Wybodaeth - Aberglasney
Castell y WaunCastell y Waun
Mae’r gerddi yn cau dros y gaeaf ar ddiwedd Hydref, ond byddant yn agor am dri phenwythnos yn Chwefror fel y gall ymwelwyr edmygu’r carpedi o eirlysiau yn y Goedwig Tir pleser (gyferbyn i’r gerddi).
Rhagor o Wybodaeth - Castell y Waun


Yn ôl
Mae'r wefan hon wedi ei dylunio i'w ddefnyddio gyda IE5+.Map o'r wefan mewn ffurf testun.
Safle swyddogol Bwrdd Croeso Cymru. Hawlfraint 2006. Termau Defnyddio.
 Dyluniwyd y Safle gan World.Net. Hawlfraint 2006.