| Mae nhw’n galw hon yn Dudalen Gartref, felly gadewch i ni ddweud wrthych am ein cartref. Am wlad mor fechan, mae Cymru yn llwyddo i gynnwys cryn dipyn. Nid sôn am ein mynyddoedd, cymoedd a thraethau yn unig ydyn ni. P’un a ydych yn chwilio am ddiwylliant, ymarfer corff, antur neu ychydig o lonydd, maent oll yma. A tydi ‘yma’ ddim yn rhy bell – does dim angen hedfan, newid arian na siarad iaith newydd. |