1. Nid yw canlyniadau Chwilio yn cael eu treiddio yn ôl y meini prawf a ddewiswyd. Beth allaf ei wneud?
2. Oes rhaid i mi ddefnyddio pob un o’r opsiynau ar y dudalen chwilio?
3. Ydw i’n gallu chwilio am fwy nag un categori ar yr un pryd?
4. Dwi ddim yn gwybod pryd y bydda’ i’n ymweld. Oes rhaid i mi roi dyddiadau?
5. Sut ydw i’n gallu gweld pa gynnyrch sydd ar gael dros gyfnod penodol?
6. Ydw i’n gallu chwilio am eiddo y gellir ei archebu ar-lein?
7. Dwi ddim yn adnabod Cymru’n dda iawn. Sut ydw i’n gwybod pa eiddo sydd yn y lleoliad iawn?
8. Dwi wedi gwneud camgymeriad ar y dudalen chwilio. Beth ddylwn i ei wneud?
1. Nid yw canlyniadau Chwilio yn cael eu treiddio yn ôl y meini prawf a ddewiswyd. Beth allaf ei wneud?
Dylai canlyniadau gael eu treiddio yn ôl yr holl Feini Prawf Chwilio a ddewiswyd. Ble nad yw hyn yn digwydd, gallai fod oherwydd gwrthdaro â Norton Internet Security. Os oes gennych Norton Internet Security wedi ei osod ar eich cyfrifiadur, dilynwch y camau syml hyn i gyflunio mur dân Norton Internet Security.

Yn ôl i'r brig

2. Oes rhaid i mi ddefnyddio pob un o’r opsiynau ar y dudalen chwilio?
Gallwch ddewis faint bynnag o’r opsiynau chwilio ag y dymunwch. Defnyddiwch fwy o opsiynau os ydych yn chwilio am rywbeth penodol. Defnyddiwch llai o opsiynau os ydych am gael nifer sylweddol o ganlyniadau.

Yn ôl i'r brig

3. Ydw i’n gallu chwilio am fwy nag un categori ar yr un pryd?
Ydych

Yn ôl i'r brig

4. Dwi ddim yn gwybod pryd y bydda’ i’n ymweld. Oes rhaid i mi roi dyddiadau?
Mae’r ‘dyddiad cychwyn’ wedi ei osod i ddyddiad heddiw. Gallwch osod dyddiad gorffen i gael gweld pa eiddo sydd ar agor yn ystod eich cyfnod chi.
Gallwch adael y dyddiad gorffen yn wag

Yn ôl i'r brig

5. Sut ydw i’n gallu gweld pa gynnyrch sydd ar gael dros gyfnod penodol?
Defnyddiwch yr opsiwn ‘arddangos canlyniadau sydd ar gael’

Yn ôl i'r brig

6. Ydw i’n gallu chwilio am eiddo y gellir ei archebu ar-lein?
Ydych, defnyddiwch yr opsiwn ‘archebu ar-lein trwy VisitWales.

Yn ôl i'r brig

7. Dwi ddim yn adnabod Cymru’n dda iawn. Sut ydw i’n gwybod pa eiddo sydd yn y lleoliad iawn?
Gallwch ddewis opsiwn ‘arddangos canlyniadau ar fap’ i ddangos eiddo ar fap o Gymru. Yna gallwch fireinio eich chwiliad neu gynnal chwiliadau newydd ar y dudalen honno.
Os oes gennych wybodaeth gyffredinol o Gymru, gallech ddefnyddio’r ddewislen ddisgynnol o ranbarthau i gyfyngu eich chwiliad i’r ardal y mae gennych chi ddiddordeb ynddi.

Yn ôl i'r brig

8. Dwi wedi gwneud camgymeriad ar y dudalen chwilio. Beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch ddad ddewis opsiwn trwy glicio eto ar focs yr ydych eisoes wedi ei ddewis, neu trwy ddileu’r testun. Neu gallwch ddefnyddio’r botwm ‘clirio’ i ddechrau o’r dechrau.

Yn ôl i'r brig

Mae'r wefan hon wedi ei dylunio i'w ddefnyddio gyda IE5+.Map o'r wefan mewn ffurf testun.
Safle swyddogol Bwrdd Croeso Cymru. Hawlfraint 2006. Termau Defnyddio.
 Dyluniwyd y Safle gan World.Net. Hawlfraint 2006.