|
|
| |
|
 |
| |
|  |

|
|
|
|
|
|
|
|  | Mae aseswyr medrus, diduedd, yn ymweld ag atyniadau ymwelwyr sy’n cymryd rhan bob blwyddyn. Maen nhw’n samplu pob elfen o brofiad ymwelwyr – o’r ymholiadau ffôn cychwynnol, i gyfleusterau arlwyo, y siop a’r toiledau. Mae hyn yn rhoi’r hyder i chi bod yr atyniad wedi’i wirio’n drylwyr cyn i chi ymweld â’r lle. Dim ond atyniadau wedi’u hasesu gan Croeso Cymru, ac sy’n bodloni safonau VAQAS Cymru, sy’n ennill nod ansawdd. |
|  |  | Mae safonau diogelwch o’r radd flaenaf yn bwysig hefyd. Caiff pob gweithredwr ei asesu dan gynllun achredu Croeso Cymru ar gyfer gweithgareddau, mae ganddynt drwydded statudol gan Adventure Activities Licensing Authority (AALA) neu maen nhw wedi’u cymeradwyo gan gorff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol cydnabyddedig neu gorff masnach. Rhaid i bob gweithredwr a darparwr gydymffurfio â Chod Ymddygiad sy’n disgrifio’r gweithdrefnau a’r arferion da ar gyfer pob gweithgaredd dan sylw.
Mae’n naturiol bod rhywfaint o risg wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau. Ni all Croeso Cymru warantu na chewch chi mo’ch anafu nac unrhyw anlwc arall wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau. Er hynny, nod ein cynlluniau achredu ac asesu yw lleihau’r peryglon hynny. |
|
 |
|
| |