
Cynlluniau Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru Cymru yw eich pasbort i wyliau da. Mae'r amrywiol gynlluniau yn helpu i dynnu sylw at y math o lety sy'n ateb eich gofynion chi. Gallwch hefyd fod yn gwbl hyderus wrth archebu lle, gan fod pob llety wedi ei archwilio'n drylwyr gan un o Gynghorwyr Ansawdd Croeso Cymru. Y SÊR yw eich arweiniad i ANSAWDD. Maent yn dweud yr hyn rydych chi am ei wybod go iawn am lefydd i aros. Mae gan y llefydd sy'n sgorio'n uchel awyrgylch tu hwnt o groesawgar a naws hyfryd, mae eu lefelau cysur a gofal am westeion yn uchel, ac mae'r amgylchedd deniadol wedi ei ategu gan gynllunio gofalus a sylw i fanylion. Bydd pob man wedi ei archwilio'n bersonol gan Gynghorwyr Ansawdd sydd wedi eu hyfforddi'n drylwyr a byddant wedi dynodi Seren ar raddfa o un i bump i'r llety - felly wrth i chi gyrraedd fe allwch chi fod yn hyderus o'r ansawdd a gynigir.
|