

| Ansawdd eithriadol, gyda dodrefnu o'r safon uchaf, gwasanaeth di-fai, gofal sylwgar i westeion a phob agwedd ar y busnes yn cael ei ddarparu a'i gyflwyno'n rhagorol |
|
| Ansawdd ardderchog, gyda safon uchel i'r dodrefnu, y gwasanaeth a'r gofal am westeion |
|
| Ansawdd da iawn o ran y dodrefnu, y gwasanaeth a'r gofal am westeion |
|
| Ansawdd da o ran ansawdd cyffredinol y dodrefnu, y gwasanaeth a'r gofal am westeion |
|
| Ansawdd teg i dda o ran ansawdd cyffredinol y dodrefnu, y gwasanaeth |
|
Mae'n bwysig cofio fod Graddau'r Ser yn ystyried natur y llety a disgwyliadau'r gwesteion - felly mae ffermdy yn llawn mor deilwng i ennill Pum Seren a gwesty gwledig, cyn belled fod yr hyn y mae'n ei gynnig o'r safon uchaf.
Er bod safon o'r pwys mwyaf, rhaid i'r llety hefyd ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau sy'n briodol o ystyried pa fath o lety ydyw a disgwyliadau'r gwesteion. Mae'n amlwg, bydd y rhain yn amrywio yn ol pa fath o lety ydyw - er enghraifft, fyddech chi ddim yn disgwyl i westai a llety Gwely a Brecwast gynnig yr un cyfleusterau i westeion. At ddibenion graddio, rydym felly wedi rhannu'r llety i amrywiol gategoriau, er enghraifft: Gwesty, Gwely a Brecwast, Gwesty Bach, Tafarn, Ffermdy. Noder: 1. Mae ffermdai sy'n cynnig llety Gwesty Bach neu Wely a Brecwast yn fferm sy'n gweithio. 2. Fe welwch chi'r categoriau 'Gwesty Gwledig' a 'Thŷ Gwledig' yn y rhestrau llety. Mae'r olaf yn cynnig llety annhebyg i westy.

Bydd gradd y Seren a'r math o lety ydyw yn cael eu harddangos ar arwyddion ac yn y llenyddiaeth. Er enghraifft:
| |
| (yn berthnasol i ffermdai/gwestai bach yn unig) Rhoddir y Wobr Ffermdy neu Westy Bach i berchnogion sydd wedi cwblhau cwrs cymeradwy mewn twristiaeth fferm neu reolaeth gwesty bach yn llwyddiannus, ynghyd â Chwrs Rheolwr y Cynllun Croeso. Gellir disgwyl gofal cwsmeriaid o safon uchel. |
| |
| Dyma'r symbol y dylai cerddwyr brwd chwilio amdano wrth iddynt drefnu llety yng Nghymru, gan ei fod yn cael ei arddangos mewn llefydd sydd wedi mynd ati i ddarparu adnoddau a fydd yn croesawu cerddwyr - cyfleusterau sychu ar gyfer dillad ac esgidiau gwlyb, lle i storio sachau teithio, manylion trafnidiaeth gyhoeddus leol a bydd darparwyr llety gyda gwasanaeth yn cynnig paratoi bocs bwyd tra bod darparwyr hunan-ddarpar yn darparu bwyd i chi ei baratoi. |
| |
| Fel gyda cherddwyr, mae llety sy'n arddangos y symbol hwn yn hapus i ddarparu cyfleusterau ar gyfer unrhyw un sydd am deithio Cymru ar gefn beic. Bydd ganddynt rywle dan do a dan glo ble gellir storio beiciau, byddant yn darparu pibell ddwr i'w golchi a manylion y siop drwsio beiciau agosaf. Yn yr un modd a'r cyfleusterau i gerddwyr, byddant yn gallu cynnig cysuron megis cyfleusterau sychu ar gyfer dillad gwlyb a chyfleusterau i wneud te/coffi. |
|