Canslo ac Yswiriant

Pan fyddwch yn cadarnhau trefniant gwyliau, cofiwch eich bod yn cytuno i gontract sy'n eich rhwymo'n gyfreithiol, sy'n caniatau i'r perchennog hawlio iawndal os ydych yn methu defnyddio'r llety neu'n gadael yn gynt na'r disgwyl. Mae bob amser yn ddoeth trefnu yswiriant gwyliau fydd yn cynnwys canslo neu unrhyw ddigwyddiadau eraill na allwch eu rhagweld. Os byddwch yn gorfod newid eich cynlluniau teithio, rhowch wybod ar unwaith i drefnydd y gwyliau neu'r perchennog


Unrhyw Broblemau


Ar adeg ein hasesiad, roedd yr holl eiddo yn cwrdd â'r safon y mae Croeso Cymru yn ei disgwyl am y radd ansawdd a nodir. Ni ellir dal Croeso Cymru yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg yn safonau ac ansawdd y gwasanaeth a ddaw i'r amlwg ar ôl cynnal yr asesiad. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb mawr yn eich arhosiad yng Nghymru, ac os ydych yn anfodlon gyda'r llety mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â pherchennog neu reolwr y busnes ar adeg eich arhosiad fel y gellir datrys y sefyllfa.

Yn anffodus, gall Croeso Cymru ond ystyried archwilio cwyn am lety os ydych eisoes wedi codi'r mater gyda'r perchennog neu'r rheolwr. Os ydych eisoes wedi gwneud hyn ond yn anfodlon gyda'r ymateb, anfonwch fanylion eich cwyn i'r Adran Sicrhau Ansawdd (quality@tourism.wales.gov.uk) o fewn 14 diwrnod i'ch ymweliad, pan yn bosib, gan gynnwys enw'r person y gwnaethoch gyfeirio'ch cwyn ato/ati yn y lle cyntaf. Nid yw Croeso Cymru mewn sefyllfa i fedru darparu iawndal lle nad yw cwsmeriaid yn gallu datrys anghydfod o'r fath. Os cyfeiriwch eich cwyn i Croeso Cymru i'w harchwilio, cadwn yr hawl i ddefnyddio'r gwyn fel y gwelwn yn dda, a all gynnwys pasio copi ohoni i'r perchennog dan sylw.

Yn ôl
Mae'r wefan hon wedi ei dylunio i'w ddefnyddio gyda IE5+.Map o'r wefan mewn ffurf testun.
Safle swyddogol Bwrdd Croeso Cymru. Hawlfraint 2006. Termau Defnyddio.
 Dyluniwyd y Safle gan World.Net. Hawlfraint 2006.